Introduction
If readers
would like to contribute an article for the Guest Contributor page heading
please contact me, my email address appears on the About Me page heading. The 0nly two things I ask is that the
article should be hill related and importantly I should not end up in court
through its publication! Otherwise the choice of subject matter is down to the
Guest Contributor.
About
the Author; Dafydd Andrews
Dafydd Andrews is a hillwalker
and mountaineer who has climbed all over the world. He has written a number of
guide books to the hills of his native Wales as well as articles on international
mountaineering for a number of publications in both English and Welsh.
Links to the
English and Welsh versions of Dafydd's book appear at the end of this article
as does Dafydd's email address for those wishing to contact him direct. A
version in Cymraeg follows the English version of the article below.
The Welsh
100
Some years ago, I caught the
Munro bug over the course of several visits to the Highlands. I had resisted it for a long time! But it quietly and subtly insinuated its way
into me despite the fact that I was scornful about lists. Having climbed the hills of Assynt and the
Ullapool area over and over simply because I loved them, I couldn’t see why I would
want to visit new areas merely to tick off names on a list. But my resistance gradually crumbled and once
it had gone I became very excited about the Munro challenge. I started to explore other parts of Scotland
with various friends, including areas I had never visited previously.
On any map, my eye is always
drawn to the highest hills and in every new area I found myself searching for the
local Munros. I suspect most hillwalkers
in Scotland do this automatically nowadays.
And it isn’t just hillwalkers who know about the Munros. They’ve seeped into the national
consciousness. They’re routinely
mentioned in weather forecasts on radio and television!
The great thing about lists is
that they take you away from the main peaks and allow you to explore hills and
regions you might otherwise ignore. In
Scotland, far more people climb Ben Nevis than, say, Ben Lawers. Likewise in Wales, most head for Snowdon,
Tryfan or Cader Idris and not for Rhinog Fawr or the Black Mountains. At some point during my first round of the
Munros I started dreaming of creating a mountaineering challenge in Wales which
would encourage walkers to visit all parts of the country. By this time, I had driven up and down to
Scotland many, many times and had pumped a lot of dosh into the Scottish
economy! So a new challenge nearer home
had some appeal for financial - and perhaps environmental - reasons too.
I had already published a
number of books with Y Lolfa Press near Aberystwyth and I asked them if they
would be interested in a book on the one hundred highest peaks in Wales. I wrote the original in Welsh under the title
‘Cant Cymru’ and translated it myself as ‘The Welsh One Hundred’. Both versions received a great deal of
publicity in Wales - including on radio and television - and initial sales were
good. The English version has sold over
4,000 copies and the Welsh version has had a boost recently as a well-known
media figure in Wales has written a coffee table book based on his own round of
the Welsh One Hundred. In retrospect,
though, I believe my books would have done better had they been distributed
outside Wales. It’s a tad frustrating
that the Nuttall’s book has far more reach because it was published by
Cicerone. A lesson learnt!
|
The Welsh 100 by Dafydd Andrews |
I remember with great fondness
the evenings I spent poring over maps covering the whole of Wales. It was tremendous fun. Nothing beats planning an adventure in the
hills. Don’t get me wrong, I enjoy
writing about mountains but I’d rather be out there walking in them!
Most of the mountains in my
list for The Welsh One Hundred chose themselves. They were automatic selections. I was aware, though, that creating any list
of hills is fraught with potential problems.
Just look at the mess they got themselves into with the Munros. Over the years many bizarre decisions have
been made during their various revisions.
In the final analysis the problems they encountered were to do with the
fact that there’s a considerable amount of subjective appraisal. In preparing my own list for Welsh hills I
was determined to avoid the kind of controversy that has raged in Scotland.
At the same time, I’m not fond
of the idea of using mathematical formulae or rigid height criteria either. It leads to some down-right silly decisions
and choices. A fuller consideration of
factors such as the names of the mountains, the opinions of local people and
the way mountain walkers in Wales ‘see’ the mountains would, in my view,
provide a better list. Do the walkers of
Wales really think they are going up two
mountains when they reach the top of Y Lliwedd and that Lliwedd Bach is a
third, separate peak? Do the people of
Llanberis really consider Llechog to be a separate mountain from Snowdon? You will hear people speak of ‘y ddwy Aran’ (‘the two Arans’) but according
to the Nuttalls there are three mountains here.
The rounded hill of Cadair Bronwen was made into two mountains by them
(now, following resurveying, three!) and the barely perceptible hillocks of
Ysgafell Wen provide three peaks! All
this arises from settling on an arbitrary definition and sticking to it
blindly. Look at the hills and put away the tape measure!
In brief, I stuck to the simple
height criterion but gave full consideration to the local factors I mentioned
above. More of an issue for me, really,
was choosing which routes to follow. I
wanted the book to be light so walkers could carry it with them onto the hills. This meant that the text needed to be fairly
minimal and selective. I decided to
suggest just one route for each hill. I
also decided that this should be the easiest route, so that walkers with little
experience could use it safely. As a
result, there are routes which experienced walkers might not choose - for
example, the route up Tryfan which was chosen to avoid the most difficult
scrambling and the greatest exposure, precisely the things many experienced walkers
seek!
I was also keen to provide a
guide to pronunciation. Wherever I’ve
travelled in the world, I’ve always done my best to try to pronounce mountain
names in the local language. I think
it’s great that the excellent walkhighlands website, for example, includes audio
pronunciations of the names of Scottish hills.
And I’ve long been rather fed up with hearing, for example, Tryfan
pronounced as ‘Triffan’ rather than ‘Truh-van’!
For me, to know the hill includes being able to say its name - just like
with people!
I’m always deeply delighted
when people tell me they’ve found my books useful and that they’ve opened up
new opportunities and adventures for them or that they now see the hills of
Wales in a new way. Many have written to
me to ask for the completers’ certificate but some just write to say thank you. And to think that there was a time I didn’t
approve of lists!
Dafydd Andrews – Cant Cymru
Mae Dafydd Andrews yn fynyddwr
adnabyddus sydd wedi dringo a chrwydro mynyddoedd ledled y byd. Mae wedi
ysgrifennu nifer o lyfrau cerdded am fynyddoedd Cymru yn ogystal ag erthyglau
am fynydda, yn Gymraeg a Saesneg, i wahanol gyhoeddiadau.
Rai blynyddoedd yn ôl bellach,
fe benderfynais i yr hoffwn i ddringo’r Munros - mynyddoedd dros 3000 o
droedfeddi yn yr Alban. Ro’n i wedi bod yn gwrthsefyll y ffasiwn newydd ers tro
byd! Yn enwedig gan nad oeddwn i’n hoffi’r syniad o ddringo mynydd dim ond
oherwydd ei fod o’n digwydd bod ar ryw restr neu’i gilydd. Ond yn raddol, a
minnau wedi dringo holl fynyddoedd Assynt ac ardal Ullapool droeon yn ystod
nifer helaeth o ymweliadau, dyma fi’n cael fy nhemtio gan gyfeillion i ymweld â
rhannau eraill o’r Alban ac o dipyn i beth fe ddes i’n frwd iawn dros her y
Munros.
Pan fydda i’n agor map, fe
fydda i’n chwilio’n reddfol am y mynyddoedd uchaf. Ym mhob ardal newydd fe
fyddwn i’n chwilio am y Munros lleol. Mae’n debyg gen i fod yn rhan fwyaf o
gerddwyr yn tueddu i wneud hyn y dyddiau ‘ma. Ac nid cerddwyr y bryniau’n unig
sy’n gwybod am y Munros. Mae pawb yn yr Alban yn gwybod amdanyn nhw. Maen nhw
hyd yn oed ar ragolygon y tywydd!
Yr hyn sy’n wirioneddol wych am
restrau ydi eu bod nhw’n eich denu oddi wrth y prif gopaon ac yn eich annog i anturio
i ardaloedd newydd a chwilio am fynyddoedd newydd. Yn yr Alban, mae pobl yn
heidio i Fort William i ddringo Ben Nevis gan anwybyddu mynyddoedd fel Ben
Lawers, er enghraifft. Yma yng Nghymru mae niferoedd di-rif yn dringo’r Wyddfa,
ysywaeth, tra bo mynyddoedd sydd yr un mor drawiadol yn cael eu hanwybyddu’n
llwyr. Tra roeddwn i’n dringo’r Munros fe ddechreuais i feddwl o ddifri am greu
her fynydda yma yng Nghymru a fyddai’n annog cerddwyr i ymweld â phob rhan o’n
gwlad hardd ni. Erbyn hynny, ro’n i wedi bod yn gyrru bob cam i’r Alban lawer
gwaith ers blynyddoedd ac wedi gwario llawer o arian ar gynnal economi’r wlad!
Roedd her a fyddai’n nes at adre’n apelio felly.
Ro’n i eisoes wedi cyhoeddi
nifer o lyfrau efo gwasg Y Lolfa a dyma fi’n gofyn a fyddai diddordeb ganddyn
nhw mewn llyfr am gan mynydd uchaf Cymru. Roedden nhw’n gefnogol dros ben. Fe
luniais i’r gyfrol wreiddiol yn Gymraeg dan y teitl ‘Cant Cymru’ a’i gyfieithu
wedyn dan y teitl ‘The Welsh One Hundred’. Cafodd y ddau lyfr gyhoeddusrwydd
sylweddol yn y wasg - gan gynnwys y radio a’r teledu - a gwerthwyd nifer dda o
gopiau. Mae’r fersiwn Saesneg wedi gwerthu dros 4,000 copi ac fe gafodd ‘Cant
Cymru’ hwb sylweddol yn ddiweddar (2022) pan gyhoeddodd Dewi Prysor ei lyfr
yntau gyda’r un teitl sy wedi’i seilio ar fy llyfr i. Serch hynny, dwi’n
sylweddoli y byddai fy llyfrau i wedi gwerthu mwy o gopiau o lawer pe baen
nhw’n cael eu dosbarthu y tu allan i Gymru.
|
Cant Cymru Dafydd Andrews |
Mae gen i atgofion melys am y
nosweithiau a dreuliais i’n edrych ar fapiau gwahanol ardaloedd Gymru. Fe ges i
lawer iawn o hwyl. Does dim byd gwell na chynllunio ar gyfer antur yn y mynyddoedd
ond peidiwch â nghamddeall i chwaith - er cymaint y bydda i’n mwynhau
ysgrifennu am y bryniau mae’n well o lawer gen i fod yn cerdded yn eu canol!
Roedd dewis Cant Cymru’n hawdd.
Ond ro’n i’n sylweddoli, wrth gwrs, fod llunio unrhyw restr o fynyddoedd yn
gallu bod yn broblem. Dyna i chi’r dadlau chwerw yn yr Alban am y Munros, er
enghraifft. Yno maen nhw wedi gwneud llawer o benderfyniadau gwirion wrth
adolygu’r rhestr ‘swyddogol’ o bryd i’w gilydd. Y drwg ydi bod unigolion a
phwyllgorau’n methu cytuno a’u bod nhw’n dibynnu i ormod graddau ar fympwy.
Wrth ddewis Cant Cymru ro’n i’n benderfynol o osgoi’r math o ymgecru dinistriol
a chwerw a gafwyd yn yr Alban.
Ar yr un pryd, dwi ddim yn
or-hoff o ddulliau mathemategol chwaith! Mae glynu’n haearnaidd at y rhain yn
arwain at ddewisiadau od. Ro’n i’n benderfynol o ystyried ffactorau fel enwau’r
mynyddoedd, barn pobl leol a’r ffordd mae cerddwyr yn ‘gweld’ mynyddoedd Cymru.
Ydi cerddwyr yng Nghymru’n credu o ddifri eu bod nhw’n dringo dau fynydd
gwahanol wrth gyrraedd copa’r Lliwedd a bod Lliwedd Bach yn drydydd mynydd? Ydi
trigolion Llanberis yn gweld Llechog fel mynydd ar wahân ynteu fel rhan o’r
Wyddfa? Fe glywch chi bobl yn trafod ‘y ddwy Aran’ ond yn llyfr y ddau Nuttall
mae yma dri mynydd. Trowyd Cadair Bronwen yn ddau fynydd ganddyn nhw a thrwy
lynu’n gibddall at eu fformiwla fathemategol maen nhw wedi penderfynu bod Ysgafell
Wen druan yn meddu ar dri chopa! Pe baen nhw wedi ystyried ffactorau lleol -
enwau’r bryniau a barn trigolion er enghraifft - fe fyddai eu rhestr nhw’n
gwneud mwy o sens!
Fe lynais i felly at un maen
prawf, sef uchder, gan roi sylw i’r ffactorau lleol hyn hefyd. Tasg anoddach i
mi oedd dewis llwybr priodol i’r copaon. Ro’n i eisiau i’r llyfr fod yn un
ysgafn y gallai cerddwyr ei gario. Roedd angen i’r testun fod yn gryno felly.
Fe benderfynais i ddewis un llwybr yn unig ar gyfer pob mynydd. A gan mod i’n
ysgrifennu llyfr a allai gael ei ddarllen gan gerddwyr heb brofiad blaenorol yn
y mynyddoedd, fe bendefynais i gynnwys y llwybrau hawsaf - am resymau
diogelwch. O ganlyniad, mae’r llyfr yn cynnwys teithiau y byddai cerddwyr
profiadol yn eu hystyried yn llai cyffrous o bosib. Mae’r daith i gopa Tryfan
yn enghraifft amlwg.
Ro’n i hefyd yn awyddus i
gynnwys cymorth gydag ynganu enwau’r mynyddoedd. Ble bynnag y bydda i’n teithio
yn y byd, fe fydda i’n gwneud fy ngorau glas i ddweud enwau’r mynyddoedd yn
gywir. Dyw hyn ddim yn bosib bob amser wrth gwrs. Mae llawer o enwau mynyddoedd
yr Alban yn anodd ond mae gwefan walkhighlands yn cynnwys cymorth sain
amhrisiaday. Hefyd ro’n i wedi blino clywed ‘Triffan’ yn hytrach na ‘Tryfan’ er
enghraifft. I mi, mae medru dweud enw’r mynydd yn rhan o ddod i’w nabod - yr un
fath ag efo pobl!
Dwi wrth fy modd pan fydd pobl
yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau darllen
fy llyfrau a’u bod nhw wedi sbarduno anturiaethau newydd yn y
mynyddoedd. Mae nifer o bobl wedi ysgrifennu i ofyn am gopi o’r dystysgrif pan
fyddan nhw’n cwblhau’r Cant ond mae llawer yn ysgrifennu dim ond er mwyn dweud
diolch. Anodd credu mod i, ar un adeg, mor wrthwynebus i’r syniad o lunio
rhestr!
Dafydd Andrews
daveauthor54@gmail.com
https://www.ylolfa.com/products/9780862434519/cant-cymru
https://www.ylolfa.com/products/9780862434977/the-welsh-one-hundred
No comments:
Post a Comment