BBC Cymru Fyw recently
published an article on the discovery of a new 2,000ft mountain top in
Wales. The original article and a link
to it on the BBC Cymru Fyw website appear below.
Darganfod
mynydd newydd ‘unigryw’ mewn chwarel yn Eryri
Iolo
Cheung
Gohebydd BBC Cymru
Mae'r copa newydd yn gorwedd yn Chwarel Graig Ddu uwchben tref Blaenau Ffestiniog |
Mae cerddwr a tirfesurwr profiadol yn dweud ei fod wedi dod o hyd i fynydd newydd yn ardal Blaenau Ffestiniog, Eryri.
Cafodd
y copa newydd ei asesu gan Myrddyn Phillips a'i ffrind, wedi wedi iddyn nhw
sylweddoli arno o edrych ar fapiau topograffeg.
Mae'r
copa yn gorwedd yn chwarel Graig Ddu uwchben y dref, ac fe gafodd ei greu yn
dilyn gwaith ar y safle.
Yn
ôl Mr Phillips mae'n "unigryw" felly yng Nghymru, fel yr unig gopa
dros 2,000 troedfedd sydd wedi'i greu o waith pobl yn hytrach na bod yn un
naturiol.
Mae
Mr Phillips, sy'n byw yn Y Trallwng, yn mapio mynyddoedd ers blynyddoedd, ac
wedi ‘darganfod’ sawl copa newydd eisoes wrth wneud.
Dywedodd
fod y darganfyddiad diweddaraf wedi dod ar ôl i'w ffrind sylwi ar raddiant y
mynydd mewn map ar-lein.
"Mae'r
map ar-lein oedd yn dangos y copa newydd wedi profi'n gywir sawl gwaith, felly
fe aethon ni ati i ymweld â bryniau cyfagos ers mwyn cadarnhau ei statws,"
meddai.
Mae Myrddyn Phillips yn dweud bod y copa'n un 'unigryw' fel yr unig un dros 2,000 troedfedd sydd wedi'i greu o waith pobl yn hytrach na bod yn un naturiol |
Y gred yw, meddai, fod y copa newydd wedi cael ei ffurfio wedi i waith cloddio yn y chwarel ddyfnhau'r bwlch rhwng brig y chwarel a chopa gogleddol Manod Mawr.
Roedd
hynny'n golygu bod y copa'n gymwys i gael ei ystyried fel mynydd, gan ei fod yn
613m o uchder a bod y bwlch i'r copa nesaf yn disgyn 21m.
Mae
felly yn cyrraedd y gofynion sy'n cael eu defnyddio yn rhestr Welsh Highlands
ar gyfer mynydd (610m+, disgyniad o 15m+ cyn y copa nesaf) o drwch blewyn.
"I
raddau mae pob mynydd a bryn yng Nghymru yn unigryw, ond mae rhai yn sefyll
allan," meddai.
"Er
bod nifer o gopaon a thopiau yng Nghymru wedi eu creu gan waith chwareli a
chloddio, hyd y gwn i dyma'r cyntaf sydd wedi'i ganfod sydd dros 2,000
troedfedd.
"Felly
mae'n wahanol iawn i unrhyw beth arall yn y wlad, ac mae wastad yn dda i
ddarganfod copaon mynyddoedd fel hyn. Mae'n ychwanegu at ba mor gywir ydi'n
rhestrau ni o fryniau."
Cafodd gwaith ei wneud Chwarel Graig Ddu a dyna sut ffurfiwyd y copa newydd |
Er bod Mr Phillips yn cydnabod fod gan rai pobl ddiffiniad gwahanol, neu gwestiynu a yw'r copa newydd yn edrych fel mynydd 'go iawn', mae'n hapus fod y darganfyddiad newydd yn un dilys.
"Dros
sawl blwyddyn o gerdded bryniau Cymru dwi wedi canfod fod y disgyniad o 15m+ yn
fesuriad sy'n gweithio'n dda ar gyfer [mesur mynyddoedd yn] ucheldiroedd
Cymru," meddai.
Ychwanegodd
bod nifer o esiamplau ar draws Cymru o fryniau newydd yn cael eu creu o waith
diwydiannol, ac nad yw hynny'n golygu na ddylen nhw gael eu hystyried.
"Ond
does dim un o'r rhain dros 2,000 troedfedd fel mae Chwarel Graig Ddu,"
meddai.
"Mae
rhai pobl yn gweld y copaon hyn fel rhai artiffisial ac felly'n eu diystyru nhw
o unrhyw restrau. Ond rydyn ni'n fwy sympathetig yn ein rhestrau ni ac yn eu
cynnwys os ydyn nhw'n gadarn, sefydlog ac yn cwrdd a'r gofynion.
"Oherwydd
ymyrraeth ddynol maen nhw'n bodoli, felly 'dyn ni'n portreadu eu
bodolaeth."
Yn
ogystal a'i waith ar fynyddoedd, roedd Myrddyn Phillips hefyd yn rhan o
ymdrechion I fesur Ffordd Pen Llech yn Harlech er mwyn iddi gael ei chofnodi’n
swyddogol fel y stryd fwyaf serth yn y byd.
Ond
fe barodd y statws hwnnw lain na blwyddyn wedi I’r ffordd wreiddiol, Baldwin
Street yn Dunedin, Seland Newydd, ailgipio’r fraint yn 2020.
For the original article published on the BBC Cymru Fyw website