Sunday 12 December 2021

BBC Cymru Fyw Article


BBC Cymru Fyw recently published an article about hills, their classifications and surveying them, my thanks to Guto Huws for publishing the article.  The original article and a link to it on the BBC Cymru Fyw website appear below.


Y dyn sy’n mapio uchelfannau Cymru

 

Myrddyn Phillips gyda'i fesurydd ar gopa Fan y Big yn y Bannau Brycheiniog

"Mae arolygu mynyddoedd mwy fel swydd llawn amser nag unrhyw beth arall ond fyddwn i ddim yn gwneud y gwaith yma os na fyddwn i yn ei fwynhau o a'r hynaf dwi'n mynd, mae'r arolygu yn rhoi rest croesawgar pan ar fryn!"

 

Roedd hi'n haf arall prysur ar diroedd uchel Cymru eleni. Wrth i ni gael ein cyfyngu i wneud y mwyaf o'n hardaloedd roedd y niferoedd oedd yn mynd allan i fwynhau'r awyr iach gan gerdded ein bryniau a mynyddoedd wedi cynyddu yn aruthrol.

 

BBC Cymru Fyw recently published an article about hills, their classifications and surveying them, my thanks for Guto Huws for publishing the article.  The original article and a link to it on the BBC Cymru Fyw website appear below.


Ond ydych chi'n siŵr mai ar fryn, ar farlyn neu ar fynydd oeddech chi'n troedio? Ac oes gennych chi unrhyw syniad sut mae diffinio'r rhain?

 

Diolch i'r mapiwr mynyddoedd Myrddyn Glyn Phillips o'r Trallwng mae ganddon ni obaith o wneud hynny. Ar ei liwt ei hun mae Myrddyn, sy'n 60 oed, yn mentro allan ar draws Cymru i arolygu a mesur ein huchelfannau gan nodi'r canfyddiadau ar ei wefan, Mapping Mountains.

 

"Mae fy angerdd am arolygu yn dod o fy angerdd i ddosbarthu bryniau. Mae Cymru a Prydain wedi'i fendithio gyda llu o ddosbarthiadau o fryniau. Mae llawer ohonynt yn dibynnu ar ddata map yr Ordnance Survey," meddai Myrddyn.

 

"Fodd bynnag, mae gan lawer fapiau ymyl ansicr o +/-3m; felly trwy ganolbwyntio ar fryniau ymylol o'r meini prawf gallwn sicrhau dosbarth cywir y bryn."

 

Hel data ar fynydd Caerau ger Pen-y-Bont ar Ogwr

Mae gan Myrddyn 33 mlynedd o brofiad mynydda - o ddringo mynydd uchaf gogledd Affrica i gerdded mynyddoedd yn Nepal a Peru. Mae o wedi cwblhau her 3000 troedfedd neu 15 Copa Cymru mewn llai na 24 awr; 16 rownd o her mynyddoedd 2000 troedfedd Cymru; yn ogystal â chwblhau 1,100 o fryniau P30 Cymru - sef bryniau sydd â gollyngfa o o leiaf 30 medr.
 

Ar ben hynny mae'n gyfrifol am ysgrifennu, cyd-ysgrifennu a chyfrannu at lu o lyfrau ar fryniau a mynyddoedd Cymreig gan gynnwys Y Pellennig - The Remotest Hills of Wales a Y Trechol - The Dominant Hills of Wales.


 

Diffinio bryn, marlyn neu fynydd

Daw ein bryniau, marlynau a mynyddoedd mewn nifer o ddiffiniadau.


Mae modd diffinio bryn gan fesur ei ollyngfa, neu prominence yn nhermau arolygwyr, sef ystyr y 'P' yn P15 neu P30. Dyma yw'r uchder fertigol rhwng y bwlch a chopa'r bryn.

 

Grŵp y P15 - felly gollyngfa o 15 medr, sydd fwyaf presennol yng Nghymru. Fe gymerodd hi wyth mlynedd i Myrddyn hel y data ar rhain ac mae'n cynnwys 5,431 o fryniau.

 

Mae'n rhaid i farlyn fod â gollyngfa o 492 troedfedd (150m). Fe ddarganfuodd Myrddyn farlyn newydd yn ddiweddar - sef Rhinog Fach, sy'n ran o griw'r Rhinogydd yn Eryri, gan godi'r cyfanswm i 159 yng Nghymru.

 

Rhinog Fach, sef Marilyn ddiweddaraf Cymru diolch i waith Myrddyn

O ran ein mynyddoedd mae'n rhaid iddyn nhw fod ag isafswm uchder o 2,000 troedfedd (609.6m) a gollyngfa o 98 troedfedd (30m) i fod yn fynydd. Mae 188 mynydd yng Nghymru ac mae 15 o'r rheiny dros 3,000 troedfedd (914.4m).


 

Y mapio

Fe ddechreuodd Myrddyn ar ei daith fryniog pan gafodd ei ddwylo ar gopi o lyfr Mountains of Wales gan John a Anne Nuttall yn 1989. Mae'n cynnig canllaw o holl fynyddoedd Cymru a'u llwybrau.

 

"Wnes i feddwl… tybed faint mwy o fryniau sydd i'w darganfod? O fewn cwpwl o wythnosau roedd gen i ffon fesur rudimentary iawn," meddai Myrddyn.

 

"Ar ôl beirniadu mapiau'r Ordnance Survey wnes i fynd allan i ddarganfod mwy o fryniau a mynyddoedd. Wnaeth y nifer o gopaon godi o'r 181 gwreiddiol oedd y Nuttalls wedi nodi i 188 oherwydd gwaith fi a fy ffrind, y naturiaethwr Dewi Jones."

 

Ers dechrau arni mae Myrddyn wedi arolygu dros 420 o fryniau yng Nghymru yn defnyddio ffon fesur syml. Erbyn hyn mae'n defnyddio mesurydd newydd o'r enw Trimble GeoX 6000 a bellach wedi cynnal dros 700 o arolygiadau o fryniau P30 gan ddefnyddio'r teclyn.

 

Y Trimble GeoXH 6000 ar dop Hanter Hill Mhowys

Mae'n golygu fod ganddo'r gallu i fireinio ei arolygiadau gan fod y dechnoleg yn mesur uchderau a safleoedd yn fanwl gywir.
 

Meddai Myrddyn: "Dros y blynyddoedd diwethaf mae arolygwyr wedi trawsnewid y manylder sydd ar gael mewn rhestrau bryniau. Yn fwy diweddar mae technoleg LIDAR (Light Detection and Ranging) wedi creu data uchder manwl cywir. Mae'r cymysgedd o'r mathau gwhanol o dechnolegau newydd yn rhoi canlyniadau na fyddai'n bosib flynyddoedd yn ôl."

 

Mae'r holl ddata mae'n hel yn mynd ar ei wefan ac yn cynnwys disgrifiad ysgrifenedig o bob un arolygiad. Mae unrhyw ddarganfyddiadau wedyn yn cael eu hanfon i'r awdur sydd yn gyfrifol am y rhestr ddiweddaraf o'r bryniau i gael eu dilysu. Yn y diwedd mae'r canlyniadau yn mynd at wella'r data sydd ar fapiau fel yr Ordnance Survey.


Bryniau Pegwn Mawr i'r dwyrain o Llanidloes ym Mhowys


 

'Profiadau arbennig'

Er ei fod yn angerddol am sicrhau fod bryniau a mynyddoedd Cymru yn cael eu mesur yn iawn mae gan Myrddyn ddiddordeb mawr mewn ymchwilio i enwau Cymraeg yr ardaloedd yn ogystal â dal prydferthwch yr ardaloedd ar gamera.

 

Defnyddio'r mesurydd i arolygu bryn

Meddai Myrddyn: "Gall fryniau gynnig profiadau arbennig. Y pethau llai disgwyliedig sydd yn sefyll allan; ceisio dal broken spectre o gwmpas rhai o'r bryniau uchel, eiliadau tawel yn gwrando ar crunch eira man y bore, afterglow y machlud cyn dechrau i lawr wrth i'r lleuad oleuo yn ogystal â dod ar draws llwynogod, geifr mynydd ac adar ysglyfaethus.
 

"Mae gormod o fynyddoedd a bryniau i ddewis ffefryn. Rwyf rŵan yn cael boddhad o fryniau isel, yn rannol oherwydd rwyf wedi ymweld â'r bryniau uchel mor aml a rwyf yn mwynhau darganfod pethau newydd.

 

"Mae Cymru wedi'i bendithio â thirwedd uchel hyfryd sydd yn llawn amrywiaeth a dwi'n annog unrhyw un i roi eu boots ymlaen ac archwilio beth sydd ganddon ni i gynnig."

 

 

 

For the original article published on the BBC Cymru Fyw website

 

 

 

 

 

 

 

No comments: