Monday 25 March 2024

BBC Cymru Fyw - Welsh Highlands - Uchafion Cymru

 

BBC Cymru Fyw Article 

BBC Cymru Fyw recently published an article on my completion of the 630 hills that make up the listing of the Welsh Highlands – Uchafion Cymru.  The original article and a link to it on the BBC Cymru Fyw website appear below.

 

 

Y person cyntaf i ddringo 630 mynydd uchaf Cymru

 

Ar gopa Esgair Garthen - y mynydd olaf o'r 630

Ei gariad am fynyddoedd sy' wedi ysbarduno Myrddyn Phillips i ddringo 630 o'r mynyddoedd uchaf yng Nghymru - y person cyntaf i wneud hynny erioed.


Mae wedi cymryd 20 mlynedd i'r mapiwr mynyddoedd o'r Trallwng ddringo pob un o Uchafion Cymru, sef pob mynydd sy'n uwch na 500 metr.


Mae Myrddyn yn dogfennu pob un ar ei flog Mapping Mountains ac mi wnaeth gwblhau'r her drwy ddringo Esgair Garthen yng Nghwm Elan ddiwedd 2023.


 

Yr Wyddfa


Roedd y profiad yn 'anhygoel' yn ôl Myrddyn, wnaeth gychwyn ei ddiddordeb mewn mynydda yn 1988 pan yn 27 oed: "Mae'n rhywbeth o'n i'n awyddus i'w wneud pan gafodd y rhestr Uchafion Cymru ei lunio'n wreiddiol ac mae hynny'n mynd yn ôl bron i 20 mlynedd.

"Mae wedi bod yn broses araf gydag un neu ddau o anhawsterau. Pan ddaeth Covid i mewn gyda'r holl gyfyngiadau roedd y momentwm wedi mynd. Mae wedi cymryd amser i ddal fyny wedyn.

"Yr amrywiaeth sy'n gwneud mynyddoedd Cymru mor arbennig. Mae'n syfrdanol.

"Nid yw Cymru yn wlad fawr ond hyd yn oed petaech yn cerdded y bryniau bob penwythnos fyddech chi ddim yn gallu gwneud y bryniau i gyd. Mae o hyd bryn arall i ymweld ag ef."

 

Myrddyn ar gopa mynydd Fan y Big yn y Bannau Brycheiniog


Mae'n defnyddio peiriant o'r enw Trimble GeoX 6000 i arolygu a mesur ein huchelfannau gan nodi'r canfyddiadau ar ei wefan ac mae hefyd yn y broses o ysgrifennu llyfr am yr Uchafion gyda'i gydweithiwr Aled Williams o Borthmadog.

Cydweithiodd y ddau ar y rhestr wreiddiol o Uchafion Cymru, fel mae Myrddyn yn ei esbonio: "Fe wnes i lunio'r rhestr wreiddiol gydag Aled - ni sy'n gyfrifol am ddadansoddi'r rhestr ac ychwanegu bryniau newydd ati os ydyn nhw'n gymwys (uwch na 500m gyda 15m o ostyngiad o leiaf) a thynnu bryniau eraill ohoni os ydyn ni'n darganfod nad ydyn nhw.

 

Foel Meirch


"Os ewch chi nôl 10 mlynedd roeddem ni'n ddibynnol iawn ar fapiau arolwg ordnans. Dyddiau hyn mae nifer o syrfewyr annibynnol yn cynhyrchu uchder cywir ond mae hefyd rhywbeth o'r enw Lider sy' wedi'i gynhyrchu gan Asiantaeth yr Amgylchedd a gallwch gael mynediad at y data ar-lein ac mae hynny'n hynod gywir.

"Felly mae bron pob mynydd ar draws Cymru wedi ei gynnwys."

 

Moel y Llyn


Mae Myrddyn, sy'n 63 oed ac wedi bod yn dringo'r Uchafion ar ddydd Sadwrn fel arfer, hefyd yn ymddiddori yn enwau'r mynyddoedd: "Un o'r elfennau rydyn ni'n canolbwyntio arno (yn y llyfrmae'n ei ysgrifennu) yw ymchwil i enwau lleoedd. Cysylltais â dros 500 o ffermwyr, bugeiliaid, tirfeddianwyr ac academyddion a haneswyr lleol i holi am enwau bryniau.

"Pan edrychwch chi ar yr OS nawr, nid oes gan bob bryn enw ar fap OS yn enwedig wrth i chi gyrraedd y bryniau llai amlwg.

"O'n i'n gwybod mai'r gymuned orau i'w holi fyddai'r ffermwyr lleol. Dechreuais ddod ar draws enwau gwych nad oedd erioed wedi ymddangos ar fap OS. Roedd yn anhygoel. Mae Aled wedi ymchwilio hefyd ac mae gennym ni wybodaeth a diweddariadau ar y blog."

 

Rhinog Fawr


Wedi dringo dros 600 o fynyddoedd y wlad, oes gan Myrddyn ffefryn?

Meddai: "Mae dwy o'r cadwyni o fynyddoedd y byddwn i'n dewis yn syfrdanol yn eu ffordd eu hunain - un yw'r Rhinogydd sy' rhwng Abermawr ac Abermaw ac mae rhan ogleddol y grŵp bryniau hwnnw'n syfrdanol - yn wyllt a garw.

"Yr ardal arall y byddwn i'n sôn amdani yw'r ardal o fryniau wnes i orffen arni - yr Elenydd sy' i'r gorllewin o ardal Rhaeadr. Maent yn fryniau agored heb lawer o ffensys ac ar y cyfan yn laswelltir. Mae'r ymdeimlad o dawelwch os ydych chi yno ar ddiwrnod cynnar o wanwyn gyda neb o gwmpas am filltiroedd - teimlad o ryfeddod llwyr.

"A pe bai'n rhaid i fi enwi un mynydd mae'n rhaid iddo fod yn Tryfan - mae Tryfan yn eiconig."

 

Arenig Fawr


Felly beth mae Myrddyn wedi ei ddysgu o'i 20 mlynedd o ddringo'r Uchafion?

"Dwi wedi dysgu, os ydych chi'n gosod nod i chi'ch hun, i wneud eich gorau i drio ei gyflawni. Dwi wedi dysgu bod Cymru yn un o'r llefydd harddaf yn y byd. Ac mae ganddi rai bryniau anhygoel."

No comments: